Sameena Imam (Llun: PA)
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i ddiflaniad dynes 34 oed o Gaerdydd wedi cael hyd i gorff.

Cafodd Sameena Imam ei gweld ddiwethaf yn Coventry, lle’r oedd yn gweithio, y diwrnod cyn y Nadolig.

Dywedodd llefarydd ar ran heddlu’r West Midlands nad yw’r corff, a gafodd ei ddarganfod yng Nghaerlŷr, wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond fod teulu Sameena Imam wedi cael gwybod am y datblygiad hwn yn yr ymchwilliad.

Roedd dau ddyn eisoes wedi cael eu cyhuddo o’i llofruddio ac fe wnaeth y ddau ymddangos trwy gyswllt fideo gerbron Llys y Goron Birmingham ddydd Mawrth ac maen nhw wedi cael eu cadw yn y ddalfa tan fis Ebrill.