(Llun: PA)
Mae gwerth dros biliwn o bondiau pensiynwyr newydd y Llywodraeth wedi cael eu gwerthu i fwy na 110,000 o bobl dros 65 oed.

Dywed Canghellor y Trysorlys, George Osborne, fod y gwerthiant wedi bod yn “llwyddiant ysgubol”,  gyda gwerthu £1.153 biliwn yn cael eu gwerthu yn ystod y ddau ddiwrnod cyntaf.

Mae cronfa o £10 biliwn wedi cael ei neillto ar gyfer y bondiau i bobl dros 65, sydd ar gael ar-lein, dros y ffôn neu drwy’r post, ond cymaint yw’r galw amdanyn nhw fel bod cwsmeriaid yn ei chael hi’n anodd mynd trwodd i’r wefan neu i gael ateb ar y ffôn.

Mae’r bondiau’n cynnig llogau rhwng 2.8% a 4.0% – sy’n sylweddol uwch na’r cyfraddau sy’n cael eu talu gan y banciau.

“Dyma’r gwerthiant bondiau mwyaf yn hanes Prydain,” meddai George Osborne.

“Mae’n cynllun economaidd hirdymor yn cynnwys cefnogi cynilwyr. Gallaf ddweud bod y bond pensiynwyr 65+ yn hynod lwyddiannus.”