Everest (pavel novak CCA 2.5)
Mae dau berson ifanc o’r Felinheli yn mynd i Nepal i godi arian at Ymchwil Cancr Cymru ac yn cynnal bore coffi  heddiw fel rhan o’u ymgyrch.

Fe fydd croeso cynnes i bawb yn Y Felin Sgwrsio, Y Felinheli y bore yma.

Ym mis Mawrth bydd Nia Jenkins a Carwyn Dafydd yn mentro i fyny i ‘base camp’ mynydd ucha’r byd, Everest.

“Bydd y daith yn digwydd dros 13 diwrnod a bydd gofyn i ni gerdded i fyny at uchder o 5,354m!” meddai Nia.

“Mi fydd lefel yr ocsigen yn gostwng i 40% ar yr uchder yma felly bydd gofyn i ni wneud digon o ymarfer cyn mis Mawrth! Rydym yn mynd i fyny’r Wyddfa a mynyddoedd eraill Eryri yn rheolaidd er mwy codi lefel y ffitrwydd ac mae Carwyn yn chwarae pêl-droed i Glwb Pêl- droed Y Felinheli ac yn hyfforddi yn rheolaidd.

“Byddwn ni’n gwneud y trec er budd yr elusen, Ymchwil Cancr Cymru. Bydd gofyn i ni godi cyfanswm o £7550 a ‘da ni wedi dewis yr elusen arbennig yma gan fod Carwyn wedi colli ei dad i’r salwch 16 mlynedd yn ôl. Mi fydd yr arian yn mynd tuag at yr ymchwil i ddileu y salwch ofnadwy yma. Mae’r holl arian yn mynd i’r elusen ac rydym yn talu ein costau teithio ein hunain.”

“Rydym wedi codi miloedd o bunnau yn barod ac yn agosáu at y nod. Codwyd £2,000 mewn twrnamaint pêl-droed 5 bob-ochr yng Nghaernarfon y flwyddyn diwethaf. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu cyn belled a bydd cyfle bellach i bobl ein cefnogi drwy ddod i’r bore coffi. Neu gallwch gyfrannu ar lein drwy’r linc yma  http://uk.virginmoneygiving.com/fundraiser-web/fundraiser/showFundraiserPage.action?userUrl=NiaJenkins&faId=462889&isTeam=true