Dim ond chwech o swyddi sydd wedi cael eu creu yn ardal fenter Eryri ar safle hen atomfa Trawsfynydd
Yn dilyn gorchymyn gan y Comisiynydd Gwybodaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod datgelu anghydbwysedd difrifol yn niferoedd y swyddi sydd wedi cael eu creu yn ardaloedd menter Cymru.

Er bod cyfanswm o 2,065 o swyddi wedi cael eu creu yn saith ardal fenter Cymru, dim ond chwech o’r rhain sydd yn ardal fenter Eryri yn Nhrawsfynydd.

Mae hyn yn cymharu â 779 o swyddi yn ardal fenter Glannau Dyfrdwy, 465 yn ardal fenter Caerdydd, a 435 yn ardal fenter Sir Fôn.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dal yr wybodaeth yn ôl ar y cychwyn, ond cafodd ei gorfodi gan y Comisiynydd Gwybodaeth i gyhoeddi’r manylion am berfformiad yr ardaloedd menter ers iddyn nhw gael eu creu bron i dair blynedd yn ôl.

Yn dilyn cais gan Blaid Cymru, fe wnaeth y Comisiynydd gynnal ymchwiliad, gan ddod i’r casgliad bod Llywodraeth Cymru wedi cadw’r wybodaeth yn ôl “yn anghywir”.

Roedd Plaid Cymru yn dadlau bod y cyhoedd yn haeddu cael gwybod y manylion am y parthau menter ac fe roddodd y Comisiynydd 35 diwrnod i’r Llywodraeth ddatgelu’r wybodaeth.

Llywodraethu

Dywedodd llefarydd y blaid ar economi, Rhun ap Iorwerth AC: “Er gwaethaf penderfyniad y Comisiynydd Gwybodaeth, mae Llywodraeth Cymru yn dal i wrthod derbyn eu bod yn anghywir i wrthod rhannu’r wybodaeth ar y dechrau.

“Mater o graffu oedd hyn, a dylai Gweinidog yr Economi dderbyn bod hynny’n rhan hanfodol o’r modd y mae Cymru’n cael ei llywodraethu.

“Mae gan y cyhoedd hawl i wybod y ffeithiau am sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario, ac ystyried a ydynt yn cael gwerth am arian.”

Mewn dyfarniad o naw tudalen, dywedodd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: “Barn y Comisiynydd yw nad yw’r Llywodraeth, hyd yma, wedi cyflwyno unrhyw ddadleuon dilys i ddangos sut y byddai datgelu’r wybodaeth y gofynnwyd amdano yn yr achos hwn yn debygol o wneud drwg i’r economi, nac unrhyw dystiolaeth y byddai niwed gwirioneddol a sylweddol yn debyg o ddigwydd.”