Y llynedd oedd y flwyddyn gynhesaf erioed i gael ei chofnodi, yn ôl arbenigwyr tywydd.
Ar ei uchaf, fe roedd y tymheredd rhyngwladol 0.69C (1.24F) yn uwch na chyfartaledd yr 20fed ganrif – gan wneud 2014 y flwyddyn gynhesaf ers 1880 yn ôl Gweinyddiaeth Atmosfferaidd Rhyngwladol yr Unol Daleithiau.
Dywedodd gwyddonwyr bod rhannau o Ewrop, Affrica, dwyrain Awstralia a’r UDA wedi cyrraedd tymheredd uwch nag erioed.
O’u cymharu hefo 2013, y misoedd poethaf oedd mis Mai, Mehefin, Awst, Medi, Hydref a Rhagfyr.