Llys y Goron Caerdydd
Mae dau lysfrawd o Gasnewydd wedi cael eu carcharu am oes am drywanu eu cymydog i farwolaeth.
Fe wnaeth Gavin Harris, 39, a Raymond Ball, 33, lofruddio Stephen Lambert, 36, yn ei gartref yn Rhisga ar ôl ffrae feddw.
Cafodd y cyn-filwr Gavin Harris ei dedfrydu i leiafswm o 21 mlynedd ac wyth mis, a Raymond Ball i 22 mlynedd a chwe mis ar ôl i’r ddau bleidio’n euog i’r llofruddiaeth.
Cafodd yr ymosodiad ei ddisgrifio fel gweithred “ddisynnwyr” gan y barnwr yn Llys y Goron Caerdydd.
Fe fydd y ddau yn dechrau ar ddedfrydau oes heddiw.