Ar ôl wythnos o fynd i weld gigs yn Eisteddfod Meirion a’r cyffiniau, aeth Dylan Llŷr i weld Derwyddon Dr Gonzo a Chowbois Rhos Botwnnog ar Faes B neithiwr.
Roedd Dylan eisoes wedi bod i gig ym Maes B nos Wener, ac wedi dweud bod y sain ar y noson yn “erchyll” ac wedi “difetha’ popeth.” Oedd pethau’n well neithiwr?
“Roedd y sain ychydig yn well, ond doedd o ddim yn berffaith o hyd, eto roedd y gig yn dda ar y cyfan.
“Mi wnes i fwynhau’r Derwyddon, roedden nhw’n hwyliog iawn.
“Yr hwyl ydi’r prif beth iddyn nhw, ac maen nhw’n gwneud beth fynnon nhw. Dydyn nhw ddim yn cymryd y peth yn rhy ddifrifol.
“Roedd Cowbois Rhos Botwnnog yn dda iawn hefyd; yn daclus iawn, proffesiynol, a thynn.
“Mi faswn i’n rhoi naw allan o ddeg i’r ddau ohonyn nhw.”
Sain yn ‘warthus’
“Ond dwi eisio pwysleisio pa mor erchyll oedd y sain ar Faes B nos Wener – mae angen iddyn nhw sortio hynna allan. Roedd y peth yn warthus.
“Dyma uchafbwynt y sîn roc Gymraeg i fod, a ’tase rhywun wedi mynd i’r gig i weld beth yw’r busnes canu Cymraeg yma, y cyfan fasen nhw wedi clywed oedd fuzz!!
“Er hynny, ‘dwi wedi joio’r wythnos, ac i mi, Geraint Løvgreen a’r Derwyddon oedd yr uchafbwynt.”