Mae Prifysgol Llanbedr Pont Steffan wedi cyhoeddi y bydd hyd at 46 o bobol yn colli eu swyddi er mwyn diogelu dyfodol y brifysgol.
Mae’r penaethiaid yn rhagweld diffyg gwerth £2m yn y flwyddyn ariannol yma os na fyddan nhw’n gwneud y toriadau ar draws y staff academaidd a gweinyddol.
Yn ol Medwin Hughes, Is-ganghellor newydd y Brifysgol, fe allen nhw “hyd yn oed golli’r Brifysgol ei hun” pe na bai’r toriadau yn digwydd ar frys.
“Os nad ydym yn gwneud penderfyniadau anodd nawr, mae’n bosibl y gallai llawer mwy o swyddi gael eu colli yn y blynyddoedd nesaf,” meddai.
“Rydym wedi ystyried pob ffordd bosibl o gynyddu refeniw a lleihau costau, ond mae’n amlwg bod y diffyg mor fawr fel na allwn fynd i’r afael ag e heb leihau costau staff.”
Colli arian craidd
Ar hyn o bryd mae’r Brifysgol yn cyflogi mwy na 300 ond bydd rhaid gwneud “penderfyniadau anodd” yn sgil gostyngiad gwerth £1.2m mewn arian craidd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a llai o fyfyrwyr, meddai’r brifysgol.
Cynhaliwyd cyfarfodydd â staff a’r undebau bore heddiw i’w hysbysu am yr argymhellion a bydd cyfnod ymgynghori o 90 diwrnod yn dilyn.
Prifysgol y Drindod Dewi Sant
Dywedodd Prifysgol Llanbedr bod yn rhaid iddi gael gwared a’r diffyg cyn uno gyda Choleg Prifysgol y Drindod Caerfyrddin y flwyddyn nesa’.
Mae cytundeb yr uno i greu Prifysgol Y Drindod Dewi Sant yn mynnu bod rhaid i’r ddau sefydliad sicrhau nad yw’r brifysgol newydd yn etifeddu diffyg ariannol sylweddol.
Fideo – Medwin Hughes