Mae Cabinet Sir Ddinbych wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar gynnig dadleuol i gau Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ac Ysgol Pentrecelyn yn Rhuthun ac agor ysgol newydd ar y safleoedd.

Pe bae’r cynlluniau yn cael eu pasio byddai’r ysgolion cynradd yn cau ar 31 Awst, 2016 a’r ysgol newydd yn agor ar 1 Medi 2016.

Yn dilyn cyfarfod y bore yma, roedd aelodau’r cyngor yn gytûn bod rhaid ad-drefnu ysgolion er mwyn mynd i’r afael a chyflwr yr adeiladau a’r lleoedd sydd dros ben ynddyn nhw.

“Byddai’r cynnig presennol yn gam ymlaen i ddarparu ysgol newydd i wasanaethu’r gymuned” meddai’r cyngor.

Bydd ymgynghoriad ffurfiol hefyd yn cychwyn ar gau Ysgol Rhewl ar 31 Awst, 2017, gyda’r disgyblion wedyn yn mynychu naill ai Ysgol Pen Barras neu Ysgol Stryd y Rhos – a all symud i adeiladau newydd ar safle Glasdir yn Rhuthun.

Mae’r Cabinet hefyd wedi argymell cymeradwyo adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn, sydd ar hyn o bryd ar ddau safle yng Nghyffylliog a Chlocaenog.

Dyletswydd
Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg: “Mae adolygiadau tebyg wedi eu cynnal mewn rhannau eraill o’r sir sydd wedi arwain at fuddsoddiad sylweddol mewn rhai ysgolion.

“Mae’n ddyletswydd ar bob cyngor yng Nghymru i adolygu’r ddarpariaeth ysgol, gan ystyried yr angen i ddarparu’r addysg orau bosibl i’n plant a’n pobl ifanc mewn adeiladau modern sy’n addas at y diben”.

Bydd yr ymgynghoriad ar y cynnig ar gyfer Llanfair Dyffryn Clwyd a Phentrecelyn yn dechrau 3 Chwefror ac yn dod i ben 16 Mawrth.

Bydd yr ymgynghoriad ar y cynnig ar gyfer Ysgol Rhewl yn dechrau 10 Chwefror ac yn dod i ben 23 Mawrth.

Dolgellau

Yng Ngwynedd, mae aelodau’r cyngor wrthi’n trafod cynllun i gau 10 ysgol yn ardal Dolgellau a sefydlu un ysgol gymunedol i blant rhwng 3-16 oed.

Bydd £4.3 miliwn yn cael ei fuddsoddi ar wella cyflwr a safon adeiladau’r ysgolion yr ardal, gydag un pennaeth yn gyfrifol am ei rhedeg