Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, yn y seremoni ym Mharis heddiw
Mae seremoni yn cael ei gynnal yn Ffrainc i goffau’r tri phlismon fu farw mewn ymosodiadau brawychol ym Mharis.

Yn ystod y seremoni, bu Arlywydd Ffrainc Francois Hollande yn siarad â theulu Ahmed Merabet, y plismon Mwslimaidd o Ffrainc fu farw yn yr ymosodiad ar swyddfeydd y cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo.

Y ddau arall gafodd eu lladd oedd y blismones Clarissa Jean-Philippe a Franck Brinsolaro.

Wrth roi teyrnged i’r tri dywedodd Francois Hollande: “Fe wnaethon nhw farw er mwyn i ni gael byw’n rhydd.”

Cafodd 17 o bobl eu lladd yn yr ymosodiadau, ynghyd a’r tri dyn arfog.

‘Pryfoclyd’

Roedd cylchgrawn Charlie Hebdo  wedi cael ei fygwth sawl gwaith am ei gartwnau o’r Proffwyd Mohammed.

Yfory, mae’n bwriadu cyhoeddi 3 miliwn o gopïau o’r rhifyn diweddaraf, mewn nifer o wahanol ieithoedd, yn hytrach na’r 60,000 arferol, gyda chartŵn o’r Proffwyd Mohammed ar y clawr.

Mae’r cartŵn yn dangos y Proffwyd Mohammed gyda deigryn yn ei lygad. Mae’n dal arwydd gyda “Je suis Charlie” arno. Uwchben y cartŵn mae’r ymadrodd “Tout est Pardonne” (Maddeuant am bopeth).

Ond mae’r clerigwr radical Anjem Choudary wedi dweud bod y cartŵn yn “bryfoclyd” ac yn gwneud “hwyl am ben” Mohammed.

Yn ôl Anjem Choudary mae sarhau Islam a Mwslimiaid yn “rhan o’r rhyfel sy’n digwydd ar hyn o bryd.”

Dywedodd y dylai pobl fod yn “sensitif i deimladau Mwslimiaid” ac wedi cyhuddo’r awdurdodau o fethu a mynd i’r afael a’r broblem.