Cyngor Ceredigion
Mae undeb athrawon NASUWT a Chyngor Ceredigion wedi dweud na fydd staff yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth yn cynnal streic yfory, yn dilyn trafodaethau.
Roedd disgwyl i 23 o athrawon weithredu’n ddiwydiannol am eu bod nhw’n anhapus gyda “dulliau rheoli gwrthwynebus, a chamdriniaeth o weithdrefnau disgyblaethol, a chynnydd mewn llwyth gwaith”.
Roedd disgwyl i’r ysgol fod ar gau i ddisgyblion blynyddoedd 7-10.
Dywedodd datganiad ar y cyd gan Gyngor Sir Ceredigion a NASUWT: “Yn dilyn datblygiadau ddoe, mae NASUWT wedi tynnu’n ôl o’r streic a gynlluniwyd ar gyfer dydd Gwener hwn.
“Mae cyfarfodydd pellach yn cael eu trefnu gan Awdurdod Ceredigion i geisio datrys yr anghydfod. Ni fydd unrhyw sylw pellach yn cael ei wneud nes bydd y cyfarfodydd hynny wedi eu cynnal.”