Joanne Mjadzelics
Mae cyn-gariad Ian Watkins wedi gwadu ei bod wedi mynd at yr heddlu i gwyno am ymddygiad y pedoffeil oherwydd ei bod hi’n genfigennus ei fod yn cael rhyw gyda merched eraill.

Dywedodd Joanne Mjadzelics, 39, heddiw mai er mwyn gwarchod pobol eraill y dechreuodd hi gasglu tystiolaeth yn erbyn cyn-ganwr y Lostprophets, yn hytrach nag er mwyn dial arno.

Mae Joanne Mjadzelics yn sefyll ei phrawf yn Llys y Goron Caerdydd ac yn cael ei chyhuddo o saith cyhuddiad sy’n cynnwys dosbarthu delweddau anweddus a bod a delweddau anweddus o blant yn ei meddiant.

Eisoes, mae hi wedi mynnu mai mewn ymdrech i gasglu tystiolaeth yr oedd ganddi’r lluniau anweddus yn ei meddiant.

Wrth ddisgrifio ei chymhelliant, dywedodd wrth y rheithgor heddiw: “Dweud wrtho fy mod yn ei garu, disgrifio pethau ofnadwy  a dweud beth roedd o eisiau ei glywed – dim ond i fynd hefo’r peth.”

Mae’r achos wedi ei ohirio tan ddydd Llun.