Sameena Imam
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio gweithwraig siop o Gaerdydd.

Diflannodd Sameena Imam ar Noswyl Nadolig yn dilyn shifft yn siop Costco, lle’r oedd hi’n gweithio yn Coventry.

Mae ganddi gysylltiadau gwaith a theuluol yn Llundain, De Swydd Efrog a Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Mae dyn 38 oed o Gaerlŷr a dyn 40 oed o Coventry wedi cael eu harestio ar amheuaeth o’i llofruddio.

Dywed yr heddlu eu bod nhw’n gofidio’n fawr am Sameena Imam, ac maen nhw’n chwilio tŷ yng Nghaerlŷr fel rhan o’r ymchwiliad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth amdani gysylltu â’r heddlu ar 101.