Streic y Glowyr yn yr 1980au
Mae Ann Clwyd a gweinidogion Llafur eraill wedi galw ar Lywodraeth Prydain i gyhoeddi’r holl ddogfennau sy’n gysylltiedig â Streic y Glowyr yn yr 1980au.
Daw wedi i ddogfennau gael eu rhyddhau yn ddiweddar gan yr Archifau Cenedlaethol wnaeth ddangos bod y Llywodraeth wedi recordio sgyrsiau ffon aelodau o Undeb Cenedlaethol y Glowyr.
Yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, gofynnod llywydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr, Ian Lavery, wrth yr aelod cabinet Francis Maude: “Beth sydd gan y Llywodraeth i’w guddio ynglŷn â’r Streic?”
Ychwanegodd Ann Clwyd, AS Llafur Cwm Cynon: “Fe wnaeth yr awdurdod ddweud celwydd wrthym ni.
“Mae llawer o bethau sydd heb gael eu datgelu yn gyhoeddus a dwi’n credu ein bod hi’n amser i ddweud y gwir.”
Mewn ymateb dywedodd Francis Maude: “Fe gafodd y dogfennau eu rhyddhau yn y dull arferol a gafodd ei gymeradwyo gan y llywodraeth flaenorol.”