Mark James
Mae gwleidyddion Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi dweud ei bod yn “warthus” fod cyn-Brif Weithredwr Cyngor Sir Gâr wedi derbyn £446,000 am ddod â’i gytundeb i ben.

Cafodd Mark James ei feirniadu’r llynedd yn dilyn penderfyniad y Cyngor Sir i gynnig y tâl iddo ar draul cyfraniadau at ei bensiwn – taliadau oedd yn anghyfreithlon yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru.

Penderfynodd y Swyddfa Archwilio hefyd fod y Cyngor Sir wedi gweithredu’n anghyfreithlon trwy gefnogi achos o enllib a gafodd ei ddwyn gan Mark James yn erbyn un o drigolion y sir.

Roedd y ddau daliad wedi costio bron i £100,000 i drethdalwyr y sir.

Mae’r Aelod Seneddol Jonathan Edwards wedi dweud na fyddai trigolion y sir yn “caniatáu unrhyw gytundeb a fyddai’n costio bron i hanner miliwn o bunnoedd iddyn nhw pan fo’r cyngor ar hyn o bryd yn ystyried torri gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel prydau parod i’r henoed”.

Ychwanegodd y dylid cynnal trafodaethau o flaen camerâu byw fel bod modd i’r cyhoedd wybod manylion y bleidlais yn llawn.

“Mae’r ffaith y gallai ffarwelio â Phrif Weithredwr dadleuol iawn gostio mwy na 23 gwaith y cyflog blynyddol ar gyfartaledd yng Nghymru i drigolion y sir…. yn warthus.

“Does neb, dim un person, dim un gwas sifil, yn haeddu neu’n werth y gost sy’n gysylltiedig â’r ymadawiad o swydd sydd eisoes yn talu’n uchel iawn gyda phensiwn ffafriol iawn.”

Ychwanegodd yr Aelod Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas: “Mae’r Prif Weithredwr wedi datgan ei ddymuniad i adael yr awdurdod.

“Os yw e am adael, yna does neb yn ei atal.”

Ychwanegodd fod ymddiriedaeth y cyhoedd yn y Cyngor Sir yn isel iawn.