Joanne Mjadzelics
Clywodd Llys y Goron Caerdydd heddiw fod Joanne Mjadzelics wedi ceisio mynd at yr heddlu droeon i geisio eu rhybuddio am arferion rhywiol ei chyn-gariad, y pedoffeil Ian Watkins.

Dywedodd wrth roi tystiolaeth nad oedd gan yr heddlu amser iddi pan roedd hi’n gwneud cwynion amdano a’i bod hi wedi cael ei thrin fel rhywun oedd “allan o’i cho.”

Mae saith cyhuddiad yn erbyn Joanne Mjadzelics – ddaeth i gysylltiad gyda chyn-ganwr y Lostprophets am y tro cyntaf dros y we yn 2006 – gan gynnwys bod a delweddau anweddus o blant yn ei meddiant.

Mae hi eisoes wedi derbyn bod ganddi ddelweddau anweddus yn ei meddiant a’i bod wedi annog Ian Watkins i anfon rhai ati – ond yn mynnu mai casglu tystiolaeth yn erbyn y cyn-ganwr oedd hi.

Cefndir

Clwydodd y llys yr wythnos hon  ei bod hi ag Ian Watkins o Bontypridd wedi trafod cael plentyn gyda’i gilydd er mwyn ei gam-drin a’i ladd.

Dywedodd hefyd bod y canwr wedi ei gorfodi i arwyddo dogfen yn addo na fyddai hi’n datgelu ei gyfrinachau pedoffilaidd.

Fe wnaeth yr heddlu arestio Joanne Mjadzelics, 39, yn dilyn achos Ian Watkins ym mis Tachwedd 2013.

Mae’r achos yn parhau.