Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gorfod cyflogi mwy na 70 o nyrsys o Sbaen o ganlyniad i argyfwng recriwtio yng ngogledd Cymru.

Yn ôl adroddiadau, cafodd rhai o’r nyrsys eu cyfweld dros y we wedi i swyddogion fethu a dod o hyd i weithwyr lleol.

Mae dros hanner o’r nyrsys wedi cychwyn gweithio yn Ysbyty Gwynedd, Bangor; Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ac Ysbyty Maelor yn Wrecsam.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: “Mae’n rhaid i ni ddenu nyrsys cymwys.

“Yn ystod 2014 fe wnaethom ni recriwtio dros 70 o nyrsys o Sbaen. Mae 45 o’r rhain wedi symud i Gymru ac wedi cychwyn ar eu gwaith, gyda disgwyl i’r gweddill ymuno a ni’r flwyddyn hon.”