Edwina Hart
Mae asiantaeth technoleg gwybodaeth o’r Ffindir wedi penderfynu sefydlu ei bencadlys yn Abertawe gan greu 30 o swyddi newydd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Mae cwmni Leadin, sydd a’i bencadlys yn Tampere wedi edrych ar sawl lleoliad yn Ewrop ar gyfer y ganolfan newydd cyn dewis Abertawe, lle maen nhw’n gweithio’n agos gyda Phrifysgol Abertawe.
Cafodd y buddsoddiad ei gefnogi gan nawdd o £570,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi’r 30 o swyddi.
‘Swyddi safonol’
Croesawodd Gweinidog yr Economi Edwina Hart y cyhoeddiad: “Rydym yn croesawu’r buddsoddiad sylweddol hwn mewn technoleg yn ein sectorau allweddol, a fydd yn creu swyddi safonol. Dyma’r math o fuddsoddiad yr ydym angen yng Nghymru, gydag ymchwil ac arloesedd yn rhan ganolog o’i gweithgareddau.
“Gwelwyd Abertawe fel y lleoliad delfrydol iddynt sy’n anfon neges gref fod gan Gymru sgiliau lefel uchel ar gael i gefnogi cynnydd busnes yn y sector.”
Ategodd rheolwr-gyfarwyddwr y cwmni Harri Mansikkamäki y cyhoeddiad: “Mae’r cydweithio clos rhwng Prifysgol Abertawe, a’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â’r galw am wasanaethau digidol ym Mhrydain, wedi bod yn rhan ganolog o’n penderfyniad i ddod i Abertawe.”