Mae disgwyl y bydd mwy na 2,000 o bobol yng Nghymru a Lloegr yn gofyn am gyngor ariannol gan Cyngor ar Bopeth (CAB) heddiw wrth iddyn nhw ail-agor ar ôl gwyliau’r Nadolig.
Mae’r gwasanaeth cynghori hefyd yn rhagweld y bydd tua 10,500 o bobol yn gofyn am gymorth gyda’u dyledion yr wythnos hon, am eu bod yn ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd ar ôl gwario dros yr Ŵyl.
Y llynedd, roedd cynnydd o 27% yn nifer y bobol oedd yn cael trafferthion gyda’u dyledion ym mis Ionawr, yn ôl Cyngor ar Bopeth.
Dywedodd Prif Weithredwr yr elusen, Gillian Guy, mai cyflogau isel a chostau cynyddol yw un o’r prif ffactorau sydd wrth wraidd y twf yn nifer y bobol sydd â dyledion.
Costau cynyddol
“Mae miloedd o bobol wedi cychwyn y flwyddyn newydd yn ceisio mynd i’r afael a’u dyledion,” meddai Gillian Guy.
“Yn ystod cyfnod y Nadolig, mae pobol eisiau anghofio am eu trafferthion ariannol. Nawr bod y Nadolig wedi dod i ben fe fyddwn ni’n rhoi cymorth i dros ddeng mil o bobol yr wythnos hon yn unig wrth iddyn nhw ymdrechu i reoli eu dyledion.
“Mae mwy a mwy o bobol yn cael trafferthion am nad ydyn nhw’n medru talu costau’r pethau hanfodol – fel ynni, rhent a threth cyngor.
“Mae twf cyflogau araf a chytundebau byrrach yn golygu nad yw pobol yn medru ennill digon i dalu’r biliau ac mae angen iddyn nhw ofyn am help cyn gynted a bo modd.”