Mae deiseb wedi cael ei lansio yn gwrthod bwriad Llywodraeth San Steffan i roi baner Jac yr Undeb ar drwyddedau gyrru.
Fe gyhoeddodd y gweinidog trafnidiaeth Claire Perry yn gynharach yr wythnos hon y bydd baner Jac yr Undeb yn ymddangos ochr yn ochr â baner yr Undeb Ewropeaidd o hyn ymlaen ar drwyddedau gyrru yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
“Mae pobl yn y wlad hon yn teimlo balchder yn ein baner genedlaethol a dyna pam rwyf wrth fy modd y bydd yn cael ei dangos ar drwyddedau gyrru ym Mhrydain,” meddai Claire Perry.
Ychwanegodd y bydd yn cryfhau “hunaniaeth genedlaethol ac undod.”
Mae baner yr Undeb Ewropeaidd yn unig wedi cael ei dangos ar drwyddedau gyrru ers i’r cardiau cyfredol ddod i rym ym 1998.
Ond mae’r cynlluniau wedi cythruddo nifer o bobl a dywedodd AS Plaid Cymru Elfyn Llwyd ei fod yn “ansensitif”.
Dywedodd AS Dwyfor Meirionydd y byddai’n arwain at wrthdaro ac yn “gam yn ôl.”
Mae mwy na 850 o bobl wedi arwyddo’r ddeiseb sy’n galw am wrthod bwriad y Llywodraeth.