Arthur Jones
Fe fydd cwest i farwolaeth pensiynwr y cafwyd hyd i’w gorff ar Ynys Creta ym mis Awst yn cael ei gynnal fis nesaf.

Cafwyd hyd i gorff Arthur Jones, 73, o Ddinbych yn ardal Chania ar yr ynys ym mis Awst, chwe wythnos ar ôl iddo ddiflannu tra ar wyliau yno.

Bu swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru a grŵp o Ddinbych yn chwilio amdano ar yr ynys a chafodd ymgyrch ei lansio ar wefannau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth am ei ddiflaniad.

Daeth cannoedd o bobl i’w angladd yn Ninbych.

Fe fydd y cwest i’w farwolaeth yn cael ei gynnal yn Rhuthun ar 7 Ionawr.