City Link (PA)
Mae Undeb yr RMT yn galw ar y Llywodraeth i gynnal ymchwiliad i’r rhesymau pam fod cwmni City Link wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.
Yn ôl yr undeb, bydd tua 3,000 o weithwyr y cwmni City Link ar draws y DU yn cynnwys 80 yng Nghymru, yn colli eu gwaith ar Nos Galan.
Mae dros 1,000 o gontractwyr sy’n gweithio i City Link yn yr un cwch.
Mae gan y cwmni dair canolfan yng Nghymru yn Ffynnon Taf, Abertawe a Gaerwen ar Ynys Môn a disgwylir bydd 10 yn cadw eu swyddi yn y canolfannau yma.
Cafodd gweithwyr wybod ar ddydd Nadolig fod y cwmni wedi ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.
Bu cynrychiolwyr yr undeb yn cynnal trafodaethau gyda’r gweinyddwyr Ernst&Young ddydd Sadwrn.
Roedd perchnogion City Link, y cwmni buddsoddi Better Capital wedi galw’r gweinyddwyr i gymryd drosodd ar ôl “gwneud colledion sylweddol,” am flynyddoedd.
Galw am ymchwiliad
Dywedodd Mick Cash ysgrifennydd cyffredinol yr Undeb fod y sefyllfa yn un “gywilyddus” ac yn gofyn i’r llywodraeth gynnal ymchwiliad.
Meddai Mick Cash: “Nid yn unig mae hyn yn ffordd gywilyddus i drin yn agos i 3,000 o weithwyr ond rydym yn coelio bod yna rhesymau sinigaidd tu ôl hyn ac yn gofyn i’r llywodraeth ymchwilio’r sefyllfa.”
Meddai Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable: “Mae hyn yn ergyd drom i’r gweithwyr sy’n gwynebu cyfnod o ansicrwydd dros ‘Dolig.
“Rydw i wedi gofyn i swyddogion gadw golwg ar y sefyllfa ac mi fyddaf yn hapus i gyfarfod yr undeb yn y flwyddyn newydd.”
Dywedodd Better Capital nad oeddynt yn fodlon gwneud datganiad tra bod y marchnadoedd stoc ar gau.