Mae awyren cwmni Air Asia gyda 162 o bobol arni – yn cynnwys un o wledydd Prydain – wedi mynd ar goll wrth hedfan dros mor Java yn Ne Ddwyrain Asia.
Roedd awyren QZ8501 yn hedfan o Surabaya yn Indonesia ac roedd disgwyl y byddai’n glanio yn Singapore am 12.30 y bore yma.
Hedfan yn uwch
Yn ôl swyddfa drafnidiaeth Indonesia roedd peilotiaid yr awyren wedi gofyn am ganiatâd i gael hedfan yn uwch, oherwydd tywydd gwael yn yr ardal.
Dywedodd Djoko Murjatmodjo, cyfarwyddwr trafnidiaeth dros dro Indonesia: “Fedrwn ni ddim esbonio be sydd wedi digwydd ond ein bod wedi colli cysylltiad gyda’r awyren.”
Ychwanegodd Djoko Murjatmodjo fod peilot yr awyren wedi cysylltu gyda gwasanaethau rheoli’r awyr am 11.13 yh (GMT) i ofyn am gael codi’n uwch i 34,000 o droedfeddi, uwchben y cymylau.
Mae Tony Fernandes perchennog Awyrennau Air Asia a chlwb pêl droed Uwchgynghrair Lloegr Queen’s Park Rangers yn dweud ei fod yn teithio i Surabaya ac y bydd yn datgelu mwy o wybodaeth pan ddaw i law.
Cadarnhaodd y Swyddfa Dramor bod dinesydd Prydeinig ar yr awyren.