Mae’r Swyddfa Dywydd yn darogan y gallai cymaint a chwe modfedd (15cm) o eira gwympo ar Gymru a Lloegr ar Ddydd San Steffan.

Cymru a rhannau o Ganolbarth Lloegr fydd yn cael eu heffeithio fwya’, meddai’r rhybuddion.

Ers 11 o’r gloch y bore, mae rhybudd melyn mewn grym dros Gymru gyfan, bron.

Dros nos heno, mae disgwyl iddi rewi, ac i’r tymheredd gwympo i -1 gradd Celsius.