Torchau ar y stryd yn Glasgow (PA)
Fe gafodd goleuadau Nadolig ar draws Cymru eu diffodd neithiwr er cof am y chwech o bobol a fu farw yn nhrychineb lorri Glasgow.

Roedd miloedd o bobol led led gwledydd Prydain wedi cefnogi ymgyrch ar y wefan gymdeithasol Facebook gan ddiffodd goleuadau am naw y nos a chynnal dwy funud o dawelwch.

Fe fydd gwasanaethau’n cael eu cynnal yn Glasgow heddiw i gofio am y chwech, a chanhwyllau’n cael eu cynnal.

‘Dinas galar’

Ddoe, fe soniodd Archesgob Glasgow am wraig a oedd wedi gweld ei merch a’i rhieni yn marw o’i blaen ar y stryd pan redodd lorri sbwriel tros balmentydd prysur yng nghanol y ddinas.

Roedd Glasgow, meddai’r Archesgob Tartaglia, wedi cael ei throi o ddinas yn paratoi at y Nadolig i fod yn ddinas o alar.

Mae un ferch 14 oed mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty wedi’r ddamwain a’r naw arall a anafwyd – gan gynnwys gyrrwr y lorri – yn gwella.

Does dim esboniad pendant eto beth a achosodd y ddamwain.