Bryn Terfel
Yn hytrach nag yn ei gynefin gwreiddiol ar lwyfan un o dai opera mwya’r byd, o Amgueddfa Werin Cymru fydd Bryn Terfel yn diddanu cynulleidfa ar Ddydd Nadolig eleni.
Mewn rhaglen ar S4C, fe fydd y canwr o Bant Glas yn canu carolau ac alawon gwerin traddodiadol o Sain Ffagan gyda gwesteion cerddorol eraill o’r tu allan i’w genre clasurol arferol.
Cerddi Myrddin ap Dafydd sy’n pontio’r caneuon, rhai ohonynt o’i gyfrol ‘Golau ar y Goeden’ ac eraill wedi eu comisiynu ar gyfer y rhaglen.
“Mae’n faes rhywfaint yn wahanol i’r arfer i Bryn,” meddai cynhyrchydd cerdd y rhaglen, Bethan Anwyl.
“Mae ’na gyfuniad o hen alawon, carolau traddodiadol Nadoligaidd a charolau plygain ac mae ’na hefyd gyfle i glywed cerdd dant a chân werin newydd gan Gwyneth Glyn.
“Mae’r artistiaid i gyd o fyd cerddoriaeth gwerin ac yn amrywio o ran eu steil ac arddulliau cerddorol.”
‘Lleoliad perffaith’
Meddai Bryn Terfel: “Mae Amgueddfa Werin Cymru yn lleoliad perffaith i raglen Nadoligaidd a thrwy gyflwyno trefniannau newydd, teimladwy o garolau traddodiadol a chyfoes rwy’n teimlo ein bod ni wedi medru creu naws unigryw’r Ŵyl.
“Roedd hi’n bleser i mi’n bersonol gael ffilmio’r rhaglen yn Sain Ffagan gan ’mod i’n hoff dros ben o’n Hamgueddfa Werin Genedlaethol a hefyd yn bleser cydweithio ar y rhaglen gyda cherddorion ifanc, dawnus dros ben.”
Bydd y rhaglen gyda Bryn Terfel, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Brychan Llŷr, y ddeuawd Brigyn a’r grŵp Calan yn cael ei darlledu am 8 yr hwyr ar Ddydd Nadolig.