Stephen Crabb
Dydi arweinydd Llafur, Ed Miliband, “ddim yn malio taten” am Gymru, oherwydd mae ei blaid wedi troi i fod yn sefydliad “elitaidd a metropolitaidd”.
Dyna farn Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb.
Mewn cyfweliad gyda phapur newydd y Western Mail, mae Stephen Crabb yn dweud fod y ffordd y mae Ed Miliband yn meddwl am Gymru yn enghraifft o “bopeth sydd allan ohoni” am y Blaid Lafur heddiw.
Ar y llaw arall, meddai Ysgrifennydd Cymru, mae arweinydd y Toriaid, David Cameron, wedi dangos ymrwymiad i Gymru, trwy fesurau cadarnhaol fel dod ag uwch-gynhadledd NATO i Gasnewydd a dod i ddealltwriaeth ynglyn a thrydaneiddio rheilffordd y Cymoedd.
“Cymharwch chi hynny gyda’r hyn y mae Ed Miliband yn ei wneud,” meddai yn y cyfweliad. “Dyw’r bachan ddim yn malio taten am Gymru. Does gan Lafur ddim diddordeb yng Nghymru.
“Faint o weithiau ydych chi wedi gweld Ed Miliband yn sefyll ysgwydd ag ysgwydd gyda Carwyn Jones eleni, yn siarad lan dros Gymru?” meddai Stephen Crabb wedyn. “Dyw e ddim wedi dangos unrhyw ddiddordeb yng Nghymru.”