Cofgolofn Henry Richard yn Nhregaron
Cyhoeddwyd mai enw ysgol newydd ardal Tregaron fydd Ysgol Henry Richard.

Roedd disgyblion wedi cyflwyno tri enw posib i’r ysgol – Ysgol Henry Richard, Ysgol Glannau Teifi ac Ysgol Grug y Gors – ond penderfynodd Cabinet Cyngor Ceredigion i enwi’r adeilad newydd ar ôl y gweinidog a’r gwleidydd fu farw yn 1888.

Ers mis Medi, mae ysgolion cynradd ac uwchradd Tregaron wedi uno i greu un ysgol ardal 3-16 oed ac fe gafodd yr enw newydd ei gyhoeddi yn Ffair Nadolig yr ysgol neithiwr.

Gwrthwynebiad

Yn gynharach yn y flwyddyn, cafodd pwysau ei roi ar y cyngor i beidio cau ysgolion cynradd yr ardal – ysgolion Llanafan (35 o ddisgyblion), Llanddewi Brefi (30) a Dihewyd (20) – oherwydd pryderon am ddirywiad y Gymraeg.

Ond roedd swyddogion o’r farn bod rhaid gwneud y penderfyniad i greu ysgol ardal newydd yn sgil ffigyrau oedd yn awgrymu bod 1,000 yn llai o blant yn yr ysgolion bach o’i gymharu â degawd ynghynt.