Ty'r Arglwyddi
Mae aelod Ceidwadol o Dŷ’r Arglwyddi, gafodd ei beirniadu am honni nad yw pobol dlawd yn gwybod sut i goginio, wedi ymddiheuro oherwydd bod ei sylwadau wedi tanseilio ymchwiliad i newyn ym Mhrydain.

Mae’r Farwnes Jenkin o Kennington eisoes wedi ymddiheuro am ei dewis o eiriau ar ddechrau’r wythnos ond heddiw fe wnaeth hi ymddiheuro am yr eildro yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Dywedodd hi ddydd Llun, wrth lansio’r adroddiad ‘Feeding Britain’: “Rydym wedi colli ein sgiliau coginio. Nid yw pobol dlawd yn gwybod sut i goginio.”

Ac yn ystod y sesiwn gwestiynau yn Nhŷ’r Arglwyddi heddiw, meddai: “Mi fuaswn yn hoffi cymryd y cyfle hwn i ddweud gymaint yr ydw i’n edifar am y ffordd wnes i eirio fy sylwadau ddydd Llun, am ei fod wedi taflu cysgod dros 76 o’r argymhellion eraill.”

Yr ymchwiliad

Fe fydd yr ymchwiliad i lefel y newyn ym Mhrydain yn ceisio canfod y rhesymau dros y cynnydd yn nifer y bobol sy’n mynd heb fwyd.

Yn Nhŷ’r Arglwyddi heddiw, fe wnaeth llefarydd y Llywodraeth, yr Arglwydd Wallace, dalu teyrnged i’r “gwaith diwyd” yr oedd y Farwnes Jenkin eisoes wedi ei wneud yn y maes.

Gellir darllen mwy am y pwnc mewn blog gan Gwenno Williams ar golwg360.