Caerdydd
Mae 10 cyngor yn ne-ddwyrain Cymru wedi penderfynu dod ynghyd i greu awdurdod rhanbarthol cyfunol, er mwyn delio hefo materion cynllunio, economaidd a thrafnidiaeth.

Y gobaith yw y bydd yn denu rhagor o fuddsoddiad i’r ardal ac yn arwain at ganfod ffyrdd “arloesol” o gynnal busnes.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd bod y datblygiad yn un “sylweddol o ran sut y bydd llywodraeth leol yn gweithredu yng Nghymru yn y dyfodol”.

Bydd yr awdurdod cyfunol – sy’n cynnwys Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Morgannwg – yn golygu y gall penderfyniadau strategol pwysig gael eu gwneud ar lefel ranbarthol.

‘Arloesol’

Ar ran holl gynghorau De-ddwyrain Cymru, dywedodd y Cynghorydd Bob Wellington, Arweinydd Torfaen a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

“Mae’r drafodaeth ynghylch ffurf a swyddogaeth llywodraeth leol yn datblygu’n gyflym yng Nghymru, ac mae’r cytundeb hwn yn dangos sut mae cynghorau lleol yn ystyried ffyrdd newydd arloesol o gynnal busnes a fydd yn dod â chanlyniadau sefydlog a pharhaus i gymunedau, sy’n addas at y diben nawr ac yn y dyfodol.

“Ni fydd yr awdurdod cyfunol yn creu sefydliad newydd neu ‘ychwanegol’. Bydd yn creu strwythur clir ar gyfer gwneud penderfyniadau a fydd yn galluogi cynghorau i ddarparu ar lefel ranbarthol strategol, gan hefyd sicrhau bod cymunedau lleol yn cael rôl gadarn yn y gwaith o lywio’u hymdeimlad o le a’r gwasanaethau a gânt.

“Mae hwn yn ddatblygiad pwysig rydym wedi bod yn gweithio tuag ato ers tro. Bydd hefyd yn cyflawni’r ymrwymiad a rennir gennym ni fel arweinwyr cynghorau i gyflawni ar ran cymunedau de-ddwyrain Cymru.”

Dywedodd Cynghorydd Plaid Cymru Geraint Davies ar raglen Dylan Jones y bore ma: “Dw i’n credu y bydd [y cynllun] yn gallu denu mwy o fuddsoddiad a diwydiannau.

Nid yw lot o bobol yn gweithio yn y Cymoedd, ond os ydan ni gyd yn tynnu gyda’n gilydd, fe allwn ni wneud y sefyllfa yn llawer mwy effeithiol,” meddai.

Esiampl

Dros y ffin, mae pum awdurdod rhanbarthol cyfunol ar hyn o bryd mewn ardaloedd dinesig fel Manceinion, Leeds a Sheffield.

Ni fydd awdurdod cyfunol yn effeithio ar y cynllun i uno awdurdodau sy’n cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru ond mae’n adlewyrchu’r drafodaeth ar ddatganoli rhagor o bwerau i ddinasoedd, cynghorau a chymunedau lleol.