Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi mynegi pryder am sawl agwedd o’r cynlluniau gafodd eu darparu gan Gwmni Niwclear Horizon yn ystod ei ymgynghoriad cyntaf ar gynllun y Wylfa Newydd.

Ymhlith y pryderon gafodd eu codi yw’r diffyg manylder ynglŷn â’r effaith ar yr Iaith Gymraeg ynghyd â’r diffyg sicrwydd fod pobl leol yn gallu manteisio ar gyfleoedd swyddi.

Mewn llythyr at Brif Weithredwr Horizon, mae Prif Weithredwr y Cyngor, Richard Parry Jones, yn codi nifer o faterion am yr ymgynghoriad.

Iaith

Ymhlith y pryderon sy’n cael eu codi mae’r diffyg manylder ar fesur effaith y cynllun o safbwynt cymdeithasol, cymunedol a’r iaith Gymraeg.

Yn y llythyr, mae Cyngor Ynys Môn yn mynegi pryder nad yw’r iaith Gymraeg yn ymddangos fel llinyn sylfaenol trwy’r holl ddogfennau ymgynghorol Horizon; er ei bwysigrwydd amlwg i Fôn.

Swyddi

Yn ogystal dywed y Cyngor mai ychydig neu ddim cydnabyddiaeth sydd yn yr ymgynghoriad o effeithiau posib y Wylfa Newydd ar swyddi sy’n bodoli eisoes, nifer y gwelyau, cyfleusterau a gwasanaethau.

Mae’r Cyngor yn gweld fod angen rhagor o waith sylweddol i sefydlu’r effeithiau ar gymunedau Môn, yn enwedig y rhai o fewn radiws 5km i’r prif safle, a sut i’w lliniaru.

‘Adeiladol, nid negyddol’

Wrth drafod y rhestr o bryderon gafodd ei gyflwyno i Horizon ar ffurf llythyr 10 tudalen o hyd, dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, Ieuan Williams ar y Post Cyntaf y bore ma: “Mae’n bwysig gosod sylfaen gref rhyngom ni a Horizon – er mwyn i ni allu cynllunio yn fanwl a gwneud yn siŵr nad oes effaith negyddol ar Ynys Môn yn sgil y cynllun.

“Er enghraifft, mae oblygiadau clir ar Horizon i gyflogi pobol leol ond dydyn nhw ddim yn son am hynny yn y dogfennau sydd wedi dod gerbron. A tydi’r iaith Gymraeg ddim i’w gweld yn rhedeg fel syflan drwy’r ddogfen.

“Mae’n bwysig iawn i Ynys Môn ein bod ni’n cael y budd economaidd mwyaf.

“Ond rhywbeth adeiladol ydy hyn [y rhestr o bryderon] ac nid negyddol.”

Ymateb

Mae llefarydd ar ran Horizon wedi dweud fod y cwmni yn “siomedig” gydag ymateb y cyngor ond nad ydy’r broses ymgynghorol wedi dod i ben eto.

“Wrth gwrs, rydym yn siomedig na chawsom ymateb mwy cadarnhaol gan Gyngor Sir Ynys Môn,” meddai’r llefarydd.

“Fodd bynnag, dim ond dechrau’r broses ymgynghori yw hyn, nid y diwedd, a dyma yw holl bwrpas y broses.

“Mae gan Horizon ymrwymiad cadarn i sicrhau manteision sylweddol a lleihau effaith ein prosiect ar gymunedau Ynys Môn.”