Streic y Glowyr
Mae ffilm am yr effaith gafodd streic y glowyr ar gymunedau yn ne Cymru wedi ennill y brif wobr yng Ngwobrau Ffilmiau Annibynnol Prydain.

Pride gafodd ei henwi’r Ffilm Annibynnol Orau ac fe ddywedodd cyfarwyddwr y ffilm, Matthew Warchus, bod yr ymateb iddi wedi bod yn “anhygoel”.

Mae’r ffilm yn dilyn hanes grŵp sy’n ymgyrchu dros hawliau hoywon yn codi arian i lowyr sydd ar streic ym mhentref Onllwyn ym Mhort Talbot, yn ystod y streic yn 1984.

Andrew Scott a Imelda Staunton gafodd y gwobrau am yr Actorion Cynorthwyol Gorau hefyd – sy’n golygu mai Pride gafodd y mwyaf o wobrau ar y noson.

Yn y seremoni yn Llundain neithiwr, fe gafodd yr actores Emma Thompson ei gwobrwyo am ei chyfraniad amlwg i ffilmiau Prydeinig a Benedict Cumberbatch am ei rôl yn amlygu ffilmiau Prydeinig ar draws y byd.

Un o actorion y gyfres deledu The Inbetweeners, Simon Bird, oedd yn cyflwyno’r noson.