Rhys Meirion (Llywelyn 2000 CC BY 3.0)
Mae’r trefniadau wedi dechrau o ddifri ar daith fawr elusen nesa’r canwr Rhys Meirion – yn arwain 150 o bobol, yn ardal Cwm Hyfryd ym Mhatagonia.
Mae wedi cadarnhau bellach bod tair tref yno wedi rhoi croeso swyddogol i’r daith sy’n gobeithio codi o leia’ £300,000 at ddau achos da.
Ac mae’r ymgyrch recriwtio yn dechrau yr wythnos nesa’ ar gyfer y daith sydd hefyd yn nodi union 150 o flynddoedd ers i’r Cymru symud i’r ardal yn 1865.
Codi arian
Ar ôl tair blynedd o deithiau cerdded yng Nghymru yn codi bron £400,000 at Ambiwlans Awyr Cymru, roedd Rhys Meirion a threfnwyr teithiau Cerddwn Ymlaen wedi penderfynu bod angen syniadau newydd.
Un o’r elusennau a fydd yn elwa y tro yma yw Cronfa Elen, sy’n codi arian at roi organau – cronfa er cof am chwaer y canwr a fu farw’n sydyn mewn damwain yn ei chartref.
Fe fydd gweddill yr arian yn mynd at yr ymgyrch i godi Ysgol Uwchradd Gymraeg yn Nhrevelin, prif dref Gymreig yr ardal.
‘Gadael gwaddol’
Mae un o drefnwyr y daith, Eryl Vaughan, newydd ddod yn ôl o Batagonia ac wedi sicrhau gwahoddiadau swyddogol gan feiri tair o’r prif drefi.
“Mi fyddwn ni’n cerdded tua 15 milltir y dydd ac, efallai, 20 ar y diwrnod ola’,” meddai Rhys Meirion. “MI fyddwn ni’n cyrraedd Craig Goch Cwm Hyfryd lle aeth y setlwyr cynta’ ar yr union ddiwrnod 150 o flynyddoedd ar ôl iddyn nhw wneud hynny.
“Mi fydd pobol o Batagonia cyd gerdded, cyd wledda a chyd ganu efo ni ar y ffordd a be sy’n bwysig ydi ein bod ni’n gadael gwaddol yno – nid neidio ar achlysur y dathlu a mynd adre’ efo’r pres i gyd.”