Mae dau ddyn, un o Gaerdydd, wedi cael eu cyhuddo o droseddau brawychiaeth am helpu llanc 17 oed i deithio i Syria i ymuno a brwydr eithafwyr IS.

Honnir bod Kaleem Brekke, 18, a Forhad Rahman, 20, wedi cynorthwyo Aseel Muthana o Gaerdydd i deithio i Syria ym mis Chwefror gan ddefnyddio pasbort newydd, meddai Heddlu De Cymru.

Fe fydd Brekke o Grangetown, Caerdydd a Rahman o Cirencester yn Swydd Gaerloyw, yn mynd gerbron Llys Ynadon Westminster yn ddiweddarach heddiw.

Mae’r ddau wedi eu cyhuddo o dan y Ddeddf Frawychiaeth ar amheuaeth o gynorthwyo i baratoi gweithred o frawychiaeth.

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Nikki Holland nad oedd y mater “yn unigryw” i Gaerdydd na Lloegr, ac yn “flaenoriaeth i’r heddlu ar draws y DU.”

Ychwanegodd: “Er bod gennym ni ein heriau, mae’n cymunedau crefyddol yma yn Ne Cymru yn gryf ac yn adeiladol.

“Rydym yn parhau’n bryderus am nifer y bobl ifanc sydd wedi neu’n bwriadu teithio i Syria i ymuno a’r gwrthdaro.

“Y cyngor yw osgoi pob taith i Syria – mae unrhyw un sydd yn teithio yno yn peri risg sylweddol i’w hunain.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r llinell gymorth Wrth Derfysgaeth ar 0800 789 321.