Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dweud ei fod yn “gwbl ymroddedig” i gadw gwasanaeth brys 24 awr mewn ysbyty yn Sir Benfro.
Roedd awgrym y byddai’r gwasanaeth brys 24 awr, ynghyd a gwasanaethau arbenigol eraill yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd yn cael ei gwtogi i 12 awr.
Fe wnaed yr awgrym mewn dogfen ymgynghorol a ddaeth i law’r wasg a oedd yn dweud nad oedd yn bosib cynnal y gwasanaethau 24 awr bellach.
Ond fe ddaeth cadarnhad y bore ma gan y bwrdd iechyd y bydd yr Uned Frys yn agored am 24 awr y dydd tan o leiaf fis Mai.
Eisoes eleni, mae’r gofal i blant gyda’r nos yn Ysbyty Llwynhelyg wedi dod i ben – er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn yn lleol.
Problemau recriwtio
Daeth y cyhoeddiad yn dilyn cyfarfod rhwng uwch-swyddogion yn yr ysbyty ddoe. Meddai’r Cyfarwyddwr Meddygol Dr Sue Fish bod trafodaethau ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth wedi bod ar y gweill ers deufis ac mai dim ond un agwedd o’r trafodaethau oedd wedi’u cynnwys yn y ddogfen a gafodd ei rhyddhau.
Dywedodd y bydd yn rhaid gweithio mewn ffordd wahanol er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn y dyfodol.
Meddai Dr Sue Fish: “Mae problemau recriwtio, yn benodol mewn swyddi yn yr Uned Frys, wedi cael eu trafod yn fanwl ac yn parhau i fod yn her sy’n wynebu’r GIG ledled Prydain.
“Yn dilyn y cyfarfod, mae ffyrdd o ddarparu gwasanaeth brys llawn 24/7 yn y dyfodol wedi cael eu nodi, er mwyn rhoi cyfle i ni feddwl am atebion hirdymor.
“Buasem yn hoffi cadarnhau i’r bobol leol ein bod yn gwbl ymroddedig i ddarparu gwasanaethau diogel o safon uchel yn Ysbyty Llwynhelyg.”
Cyfrinachol
Daeth y cynlluniau am wasanaeth 12 awr yn hytrach na 24 awr i’r amlwg mewn dogfen ar wefan y grŵp ymgyrchu Achub Ysbyty Llwynhelyg (SWAT) ddoe.
Roedd y ddogfen yn dweud nad yw hi’n bosib cynnal yr uned frys traddodiadol 24/7 bellach, sy’n ddibynnol ar ymgynghorwyr cyflenwi neu feddygon cyflenwi.
Ond mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Cyswllt Meddygol dros Ansawdd a Diogelwch, Iain Roberston-Steele: “Roedd hon yn ddogfen breifat oedd yn cynrychioli un agwedd o nifer sy’n cael eu trafod ac rwy’n bryderus iawn ei fod wedi cael ei gwneud yn gyhoeddus yn y modd yma.”