John Allen
Bydd cyn-bennaeth cartrefi gofal yn ardal Wrecsam, a gafwyd yn euog o gam-drin 19 o blant yn ei ofal, yn cael ei ddedfrydu heddiw.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug wythnos diwethaf cafwyd John Allen, 73, yn euog o 27 o ymosodiadau anweddus, un cyhuddiad o ymddwyn yn anweddus â phlentyn a chwe ymosodiad rhywiol difrifol.
Mae’r achosion yn erbyn John Allen yn ymwneud ag 18 bachgen ac un ferch, rhwng saith a 15 oed, rhwng 1968 hyd at 1991.
Fe wnaeth Allen sefydlu cwmni Cymuned Bryn Alyn, grŵp o 11 o gartrefi plant ger Wrecsam yn 1968. Roedd y rhan fwyaf o’r achosion o gam-drin honedig wedi digwydd mewn tri o’r cartrefi – Bryn Alyn, Pentre Saeson a Bryn Terion.
Roedd yn ddieuog o ddau gyhuddiad, a doedd dim modd i’r rheithgor ddod i benderfyniad ynghylch tri chyhuddiad arall o ymosod yn anweddus ac un cyhuddiad o ymddwyn yn anweddus â phlentyn.
Roedd Allen, o Needham Market, Ipswich, wedi gwadu’r 40 cyhuddiad yn ei erbyn.
Yn ystod ei achos, clywodd y llys bod John Allen wedi ei gael yn euog yn 1996 o ymosod yn anweddus ar chwech o fechgyn, rhwng 12 a 16 mlwydd oed, yn ei gartrefi gofal yn yr 1970au. Cafodd ei garcharu am chwe blynedd.
Yn yr un flwyddyn, cafodd Ymchwiliad Waterhouse ei lansio i edrych ar y mater o gam drin plant mewn gofal yn ardaloedd Gwynedd a Chlwyd ac fe gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi yn 2000.
Cafodd honiadau pellach eu gwneud ym mis Tachwedd 2001 a chafodd Allen ei gyhuddo o “honiadau rhywiol difrifol” yn ymwneud a nifer o fechgyn.
Ond nid oedd yr achos wedi parhau oherwydd pwynt technegol sydd ddim yn bodoli heddiw.
Cafodd Allen ei arestio eto gan swyddogion o Operation Pallial sydd wedi bod yn ymchwilio i droseddau rhyw hanesyddol mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru.
Fe fydd Allen yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw. Mae’r barnwr eisoes wedi dweud ei fod yn ystyried dedfryd o garchar am oes.