Mae'r map yam o Syria'n dangos lleoliad talaith Daraa yn ne'r wlad
Mae lluoedd llywodraeth Syria wedi bod yn ymosod o’r awyr ar dref yn ne’r wlad, ac mae adroddiadau bod o leiaf 19 bobl, gan gynnwys plant, wedi eu lladd.

Yn ôl mudiadau dros hawliau dynol, mae awyrennau rhyfel wedi bod yn gollwng bomiau baril – blychau mawr yn llawn ffrwydron a darnau o fetel sgrap – ar dref Jasim yn nhalaith Daraa.

Fe fu ymosodiadau hefyd ar dref Nawa gerllaw, a gafodd ei chipio gan luoedd y gwrthryfelwyr y mis yma.

Mae gwrthryfelwyr Syria wedi ennill tir yn ne Syria dros y ddau fis ddiwethaf, gan gipio cyfres o drefi oddi ar luoedd yr Arlywydd Bashar Assad. Mae’r gwrthryfelwyr wedi bod yn cydweithio â changen Syria o al Qaida, sy’n cael ei hadnabod fel y Nusra Front.