Neil Kinnock
Mae’r cyn-arweinydd Llafur Neil Kinnock wedi galw ar Blaid Lafur yr Alban i ddilyn esiampl Llafur yng Nghymru trwy ymladd yn erbyn cenedlaetholdeb.

Mewn llythyr o gefnogaeth i ymgyrch yr Aelod Seneddol Jim Murphy i arwain Llafur yn yr Alban, dywed cyn-AS Bedwellty ac Islwyn wrth aelodau Llafur yno:

“Yng Nghymru, mae Llafur wedi mynd i’r afael â’r cenedlaetholwyr. Er bod yr her yn amlwg yn wahanol yno mewn rhai ffyrdd, rydym wedi gwneud hynny trwy ddinoethi eu gwagedd, gan ddangos gwir angerdd, cael gwell polisi a chynnal cyswllt cryf gyda chymunedau ein gwlad.

“Rwy’n gwybod y gall Jim, gyda’ch help chi wneud yr un peth i Lafur yr Alban.”

‘Brwydr fawr’

Dywed ei fod yn argyhoeddedig mai Jim Murphy yw’r ymgeisydd gorau o’r tri sydd yn y ras i arwain y Blaid Lafur yn yr Alban.

“Mae’n amlwg fod gan Lafur frwydr fawr ar ei dwylo,” meddai.

“Mae arnoch angen arweinydd gyda phresenoldeb a beiddgarwch a dw i’n sicr bod gan Jim y gallu i adennill cefnogaeth pobl yr Alban.

“Fel Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, siaradodd dros yr Alban a heriodd y cenedlaetholwyr. Yn y refferendwm dangosodd wir ddycnwch trwy fynd â dadleuon Llafur i gorneli strydoedd, stadau tai a phrif strydoedd.”

Mae gan aelodau Llafur yr Alban lai na phythefnos i ddewis eu harweinydd; Neil Findlay a Sarah Boyak, ill dau yn Aelodau o Senedd yr Alban, yw’r ddau ymgeisydd arall.