Ivor Richard - galw am Brydain ffederal
Mae arbenigwr ar ddatganoli yng Nghymru yn dweud bod newidiadau yn yr Alban yn bownd o arian at ryw fath o drefn ffederal trwy wledydd Prydain.

Ac fe fyddai hynny’n golygu bod rhannau eraill, fel Cymru, yn cael hawliau a phŵer tebyg i’r Alban, meddai Ivor Richard.

Ac mae wedi cefnogi galwad Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, am drafodaeth ffurfiol ar ddyfodol cyfansoddiad gwledydd Prydain, a hynny trwy Gomisiwn neu ymchwiliad tebyg.

‘Anorfod’

Ivor Richard, sy’n dod yn wreiddiol o Lanelli, oedd awdur adroddiad mawr a daniodd y symudiad at ddatganoli yng Nghymru ddeng mlynedd yn ôl.

Mae’n eistedd ar ran y Blaid Lafur yn Nhŷ’r Arglwyddi ac wedi bod yn un o uchel swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd.

Roedd yn siarad ar raglen newyddion fore Radio Wales gan ymateb i adroddiad newydd sy’n argymell rhoi rhagor o bwerau ariannol a chymdeithasol i Senedd yr Alban.

“Mae’n anorfod y bydd symudiad nawr at ryw fath o Deyrnas Unedig Ffederal,” meddai. “Rhaid i rannau eraill gael yr un pwerau yn fras a’r un hawliau yn fras â’r Alban.”

Cadw fformiwla Barnett yn ‘wirion’

Fe alwodd Ivor Richard hefyd am newid Fformiwla Barnett sy’n dosbarthu arian o Whitehall i wledydd y Deyrnas Unedig.

Doedd dim modd rhoi rhagor o bwerau i’r Alban a chadw fformiwla sydd wedi ei seilio ar boblogaeth y gwledydd tua 40 mlynedd yn ôl, meddai.

“Mae hynny’n wiriondeb llwyr,” meddai. “Mae’n rhaid seilio’r ymgynghoriad ar angen.”