Halfpenny yn ffit
Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi enwi Leigh Halfpenny, Gethin Jenkins a Rhys Webb yn y tîm i wynebu De Affrica dydd Sadwrn, wedi iddyn nhw wella o anafiadau yr wythnos hon.
Ond dyw’r asgellwr George North ddim wedi’i enwi, a hynny ar ôl iddo gael clec i’w ben yn y gêm yn erbyn Seland Newydd yr wythnos diwethaf.
Mae’n golygu bod Liam Williams yn dychwelyd i’r tîm i gymryd lle North ar yr asgell.
Bydd Scott Baldwin hefyd yn dechrau yn y rheng flaen, ar ôl i’r bachwr Richard Hibbard orfod dychwelyd i Gaerloyw gan nad yw’r gêm yn erbyn De Affrica yn cael ei chwarae o fewn cyfnod swyddogol y gemau rhyngwladol.
Mae’r prop Paul James a’r maswr James Hook hefyd wedi gorfod gadael y garfan am yr un rheswm, gyda Jenkins yn cymryd lle James yn y rheng flaen a Rhys Priestland yn cymryd lle Hook ar y fainc.
Fe enwodd De Affrica eu tîm ddoe, ac maen nhw hefyd wedi gorfod gwneud newidiadau am bod rhaid i chwaraewyr ddychwelyd i’w clybiau.
Tîm Cymru
Leigh Halfpenny (Toulon), Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Clermont), Jamie Roberts (Racing Metro), Liam Williams (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch); Gethin Jenkins (Gleision), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (dim clwb), Sam Warburton (Gleision, capten), Taulupe Faletau (Dreigiau)
Eilyddion: Emyr Phillips (Scarlets), Aaron Jarvis (Gweilch), Rhodri Jones (Scarlets), Luke Charteris (Racing Metro), James King (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Rhys Priestland (Scarlets), Scott Williams (Scarlets)