Bydd cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal heddiw i godi ymwybyddiaeth am drais yn erbyn menywod.

Wrth hyrwyddo Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod, dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol Leighton Andrews fod angen rhoi terfyn ar y tawelwch ynghylch trais domestig.

“Mae’r digwyddiadau hyn yn gamau pwysig tuag at roi terfyn ar y tawelwch ynghylch cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod.”

“Mae’r troseddau hyn yn anodd eu gweld, ac yn aml, maent yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig, ac mae mwy nag un yn dioddef. Mae’n effeithio ar deulu a ffrindiau, ac mae plant mewn cartrefi lle mae trais yn ffordd o fyw hefyd yn dioddef llawer.

“Nid yw’n dderbyniol bod menywod ledled y Deyrnas Unedig yn cael eu treisio, yn dioddef cam-drin domestig, yn priodi dan orfod, yn cael eu cam-fanteisio’n rhywiol, ac yn dioddef mathau eraill o drais, bob dydd.”

Fel rhan o’r digwyddiadau, bydd y Gweinidog yn mynd i ddigwyddiad yn y Senedd i nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn, lle bydd yn annerch y gwesteion trwy godi ymwybyddiaeth o ddioddefaint domestig.

Mae’r llinell gymorth ar gyfer trais domestig yn agored 24 awr y dydd ar 0808 80 10 800.