Alun Wyn Jones
Mae seren Cymru Alun Wyn Jones wedi cyfaddef bod tîm Seland Newydd “ugain munud o flaen pawb arall” ar ôl i’w dîm golli’n hwyr i un o gewri hemisffer y de unwaith eto.

Roedd Cymru ar y blaen gydag 11 munud i fynd o’r ornest ddydd Sadwrn, ar ôl i gic cosb Leigh Halfpenny eu rhoi 16-15 ar y blaen.

Ond fe ddangosodd y Crysau Duon pam mai nhw yw tîm gorau’r byd gyda thair cais hwyr i sicrhau buddugoliaeth dros dîm Warren Gatland.

Dim ond unwaith mewn 27 gêm fel hyfforddwr Cymru y mae Gatland wedi llwyddo i drechu un o gewri hemisffer y de.

61 mlynedd

Mae hi bellach yn 61 mlynedd ers i Gymru drechu Seland Newydd, a’r Crysau Duon wedi ennill 26 o gemau yn olynol yn y cyfnod hwnnw.

Dyw hi ddim yn debygol y caiff Cymru gyfle i geisio gwneud yn iawn am hynny tan o leiaf Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf – hynny yw, os yw tîm Gatland yn llwyddo i ddianc o grŵp sydd yn cynnwys Lloegr, Awstralia a Fiji.

Ond mae Alun Wyn Jones yn obeithiol y gall y tîm gau’r bwlch yna mewn safon rhyngddyn nhw a goreuon y byd yn ystod y deuddeg mis nesaf.

“Roedd y sgôr yn dangos eu bod nhw [Seland Newydd] yn gallu tynnu’n rhydd yn yr 20 munud olaf,” fel maen nhw wedi gwneud yn erbyn timau eraill,” meddai’r clo.

“Fe fyddwn i’n dweud eu bod nhw 20 munud o flaen pawb arall mae’n siŵr.

“Hoffwn ni feddwl y gallwn ni gau’r bwlch yna o ugain munud. Mae Gats [Warren Gatland] yn awyddus i wneud yn siŵr fod y bechgyn sydd yn cael eu dewis ar gyfer Cwpan y Byd gyda’i gilydd am sbel.

“Mae gennym ni un gêm arall [yng nghyfres yr hydref] ac yna fe allwn ni fwrw golwg dros ble ydyn ni.”

Gwersi wedi’u dysgu?

Fe fydd Cymru yn herio De Affrica’r penwythnos yma yn eu gêm olaf yng nghyfres yr hydref, gan obeithio trechu’r Springboks am y tro cyntaf ers 1999.

Fiji yw’r unig dîm y mae Cymru wedi curo hyd yn hyn ym mis Tachwedd, gyda bechgyn Gatland yn colli’n hwyr yn y gemau yn erbyn Awstralia a Seland Newydd.

Ond mae Alun Wyn Jones yn credu bod y tîm wedi dangos arwyddion o fod yn gwella.

“Am 60 munud, roedden ni’n gallu cymryd lot mas o’r gêm [yn erbyn Seland Newydd],” meddai chwaraewr y Gweilch.

“Mae rhan ohonof i sy’n meddwl ‘yr un hen stori’, ond mae rhan ohonof i sy’n meddwl ‘ a dweud y gwir roedden ni ynddi, ac ar adegau eraill ni wedi bod mewn a mas’. Fe gymrwn ni olwg nôl ar bethau.

“Mae e’n welliant bychan eto. Rydyn ni dal ychydig ar ei hôl hi, ond ar ôl gêm Fiji [pan grafodd y tîm fuddugoliaeth] fe lwyddon ni i wella tipyn.”