Caeredin 28–13 Gleision Caerdydd

Colli fu hanes y Gleision wrth iddynt ymweld â Murrayfield i herio Caeredin brynhawn Sul.

Cafwyd perfformiad di fflach llawn camgymeriadau gan y Cymry, ac er nad oedd Caeredin yn wych fe wnaethant hen ddigon i ennill y gêm.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y gêm yn wael i’r Gleision wrth i’r clo, Jarrad Hoeata, gael ei anfon i’r gell gosb am daflu dwrn.

Roedd hi’n anorfod y byddai hynny’n creu lle i’r Albanwyr ac fe fanteisiodd y canolwr cartref, Andries Strauss, wedi wyth munud, 7-0 yn dilyn trosiad Tom Heathcote.

Caeodd y Gleision y bwlch gyda chic gosb Gareth Davies cyn i Gaeredin daro nôl gyda dwy o droed Heathcote.

Bu bron i Chris Dicomidis sgorio cais i’r Cymry wedi hynny ond er iddo gyrraedd y gwyngalch cafodd y bêl ei dal i fyny.

Ellis Jenkins oedd ail chwaraewr y Gleision i dreulio deg munud yn y gell gosb toc cyn yr egwyl. Wnaeth y sgôr ddim gwaethygu cyn hanner amser serch hynny wrth i Heathcote a Davies lwyddo gydag un gic yr un, 16-6 y sgôr.

Ail Hanner

Yr Albanwyr mewn symudiad a arweiniodd at gerdyn melyn i Sam Hobbs hefyd – y trydydd i un o chwaraewyr y Gleision.

Gyda’r Gleision yn chwarae’r mwyafrif o’r gêm gyda phedwar dyn ar ddeg roedd cyfleoedd i Gaeredin yn anochel, ac roedd cais Tom Brown toc cyn yr awr yr un mor syml â’r ddau flaenorol wrth i un bas hir ryddhau’r asgellwr yn y gornel, 28-6 gyda chwarter y gêm i fynd.

Roedd yr ymwelwyr fymryn yn well yn y chwarter olaf hwnnw, a gyda dau o chwaraewyr Caeredin yn y gell gosb y tro hwn, fe fanteisiodd Adam Thomas ar y lle i groesi am gais cysur i’r Gleision chwe munud o’r diwedd.

Wnaeth hwnnw ddim argraff ar y canlyniad, 28-13 y sgôr terfynol o blaid y tîm cartref. Mae’r Gleision yn aros yn nawfed yn nhabl y Pro12 ond yn colli tir ar Gaeredin yn yr wythfed safle.
.
Caeredin
Ceisiau:
Andries Strauss 8’, Dougie Fife 47’, Tom Brown 58’
Trosiadau: Tom Heathcote 9’, 49′
Ciciau Cosb: Tom Heathcote 16’, 25’ 37’
Cardiau Melyn: Roddy Grant 66’, Tom Heathcote 73’
.
Gleision
Cais:
Adam Thomas 74’
Trosiad: Gareth Davies 74’
Ciciau Cosb: Gareth Davies 9’, 39’
Cardiau Melyn: Jarrad Hoeata 4’, Ellis Jenkins 36’, Sam Hobbs 47’