Bydd cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod argyfwng ariannol wedi iddynt ddarganfod bod adran yn wynebu gorwario o dros £1
Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, Dilwyn Williams
miliwn.
Mewn adroddiad fydd yn cael ei drafod gan gynghorwyr dydd Mawrth, mae Adran “Oedolion, Iechyd a Llesiant” yn datgan eu bod yn wynebu gorwariant o £1,189,000 eleni.
Mae’r Cyngor yn wynebu toriadau o £50 miliwn dros y pedair blynedd nesaf.
Yn yr adroddiad mae’r adran yn dweud eu bod am gynnal adolygiad a cheisio “cymryd camau i ostwng a chyfyngu’r lefel gwariant cyfredol, lle’n bosib”.
Mae nifer o adrannau eraill yn nodi pwysau are eu cyllideb gyda’r Adran Addysg yn dangos gorwariant o £528,000 er eu bod wedi darganfod £437,000 o’r arian yma o ffynonellau eraill.
“Sefyllfa Gadarn”
Er hyn mae’r prif weithredwr Dilwyn Williams yn siarad yn bositif am y sefyllfa.
Meddai: “Mae’n amlwg, ar adeg o gyni ariannol pan mae’r Cyngor yn wynebu’r rheidrwydd i wneud arbedion effeithlonrwydd a thoriadau, bod ein rheolaeth o’n cyllideb refeniw sefydlog yn gadarn.
“Wrth gwrs, wrth wneud hynny, rhaid bod yn ymwybodol o bwysau galw ar wasanaethau. Eleni, mae hyn yn fwy amlwg ym maes y Gwasanaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant, lle y mae adroddiad penodol yn tynnu sylw at y pwysau ar y gwasanaeth o ran niferoedd a dwyster, ond hefyd yn nodi’n gwbl briodol ein gwariant cymharol uchel yn y maes.
Edrych ar bob punt
Ychwanegodd Dilwyn Williams: “Tra bod yn rhaid ceisio cyflawni gwir anghenion y rhai a wasanaethir mae’n rhaid hefyd cadw golwg ar oblygiadau cyllidol y penderfyniadau a rhaid cofio bod pob punt sydd yn cael ei wario ar wasanaeth nad yw’n wir angenrheidiol yn bunt yn fwy y bydd yn rhaid ei arbed neu ei dorri maes o law.”