Mae gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews AC,
Leighton Andrews
yn ffyddiog bydd awdurdodau lleol yn barod i uno er bod yna gryn gwrthwynebiad  wedi ymddangos.

Roedd Leighton Andrews yn dweud ei fod yn disgwyl bydd mwy o gynghorau yn cyflwyno cynlluniau i uno’n wirfoddol cyn y dyddiad cau, dydd Gwener nesaf.

Dywedodd gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, bod cynghorau yn “dechrau deffro” i’r tebygrwydd bydd uno yn achosi newidiadau sylweddol a pharhaol.

Argymhellodd Comisiwn Williams cwtogi nifer y gynghorau yng Nghymru o’r 22 presennol i 10 neu 12 yn mis Ionawr.

Hyd yma mae Cynghorau Conwy a Sir Ddinbych, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg yn dweud eu bod yn fodlon ystyried uno.

Er hyn mae yna nifer o awdurdodau lleol sydd ddim yn hapus gyda’r sefyllfa.

Nifer yn erbyn

Yn ddiweddar pleidleisiodd Cyngor Ynys Môn i wrthod uno’n wirfoddol a Gwynedd, ac yn y dyddiau diwethaf mae Ken Skates AC a dirprwy weinidog  Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi ymyrryd yn y ddadl. Mae Ken Skates wedi erfyn ar Gyngor Wrecsam, i drafod uno gyda Chyngor Sir y Fflint.

Yn ogystal mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gwrthod uno â Merthyr Tudful, a Sir Fynwy yn gwrthod ymuno a Chasnewydd.