Tree of Wolves
Cafodd bar yng Nghaerfyrddin ei ail-lansio neithiwr yn dilyn ymgyrch leol i godi arian i gynnal y lleoliad.
Roedd y lleoliad bach bron yn llawn er gwaetha’r noson wlyb, a band lleol a gafodd ei ffurfio yn y Parrot, Tree of Wolves, oedd ar frig y noson.
Dywedodd gitarydd y band, Gruffydd Owen, fod y bar wedi gwneud “cyfraniad hollbwysig i orllewin Cymru.”
“Mae llawer o bobol greadigol yng Nghaerfyrddin a’r hyn mae’r Parrot wedi gwneud yw rhoi cartref iddyn nhw, a llwyfan i fandiau,” meddai.
“Does dim byd tebyg yng ngorllewin Cymru. Buon ni’n chwarae yng ngŵyl Oxjam yng Nghaerdydd wythnos diwethaf a roedd pawb yn holi ni am y Parrot, pawb yn sylweddoli mor bwysig yw e i ail-lansio’r lle.”
Cyfraniad i’r sîn roc Gymraeg
Dros y blynyddoedd diwethaf croesawodd y Parrot nifer o artistiaid Cymraeg megis Meic Stevens, Llwybr Llaethog, Cate Le Bon, Y Ffug, Dave Datblygu, Gwenno Saunders a Cowbois Rhos Botwnnog, ond nid yw wedi cael digon o glod gan y gymuned Gymraeg meddai Gruffydd Owen.
“Dyma un o’r ychydig leoliadau yng Nghymru oedd yn cynnal gigs Cymraeg bob mis, yn wirfoddol heb nawdd,” meddai.
“Wnaeth lot o bobol ddim gwerthfawrogi hynny a chafodd y lle ddim digon o glod.”
Cymuned Gerddorol Gorllewin Cymru sydd bellach yn rhedeg y bar yn adeilad hen dafarn y Marquis of Granby, ar Stryd y Brenin, ac mae disgwyl i’r comedïwr lleol Rhod Gilbert dynnu peints tu ôl y bar rywbryd ar ôl iddo roi £3,000 tuag at yr achos a chynnig rhoi help llaw tu ôl y bar.