Mae Heddlu’r Gogledd yn ceisio darganfod beth ddigwyddodd i ddyn 24 oed sydd wedi cael anafiadau difrifol i’w ben yn dilyn digwyddiad yng Nghaernarfon.
Cafodd yr heddlu eu galw i Gae’r Saint toc wedi 11:15 nos Sadwrn, 15 Tachwedd, yn sgil adroddiadau bod dyn lleol wedi cael ei anafu.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty agosaf ond mae wedi cael ei drosglwyddo i Ysbyty Stoke erbyn hyn, lle mae’n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.
Mae’r heddlu’n trin y digwyddiad fel un amheus a chafodd dyn lleol 27 oed ei arestio ddoe ar amheuaeth o anafu. Mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.
“Er ein bod wedi arestio dyn rydym yn parhau i fod yng nghamau cyntaf yr ymchwiliad, ac yn chwilio am unrhyw berson arall fyddai’n medru rhoi cymorth i ni i ddarganfod beth ddigwyddodd nos Sadwrn,” meddai’r Ditectif Cwnstabl Bev Makanjee.
Gofynnir i unrhyw un oedd yn ardal Cae’r Saint yng Nghaernarfon am tua 11yh nos Sadwrn i gysylltu â’r heddlu ar 101.