David Cameron
Mae Aelodau Seneddol wedi beirniadu sylwadau a wnaed yn gynharach heddiw gan y Prif Weinidog David Cameron, wnaeth gadarnhau nad oes bwriad ganddo i ddiwygio’r Fformiwla Barnett.

Mae’r Fformiwla yn tan-gyllido Cymru o tua £300m y flwyddyn yn ôl amcangyfrifon Comisiwn annibynnol Holtham.

Dywedodd David Cameron nad oedd newid i’r fformiwla ddadleuol “ar y gweill”, wedi iddo addo hynny yn ystod ymgyrch refferendwm yr Alban.

“Mae cadarnhad y Prif Weinidog fod Fformiwla Barnett yma i aros yn profi nad ydi San Steffan yn gweithio dros Gymru,” meddai Hywel Williams o Blaid Cymru.

“Pe bai Cymru’n derbyn yr un faint o arian y pen a’r Alban, byddai gennym £1.2bn yn fwy pob blwyddyn i wella ein hysgolion, ysbytai, ffyrdd a rheilffyrdd.”

Arolwg

Mae’r aelod Ceidwadol Dominic Raab hefyd wedi condemnio’r fformiwla ac wedi arwyddo deiseb sy’n galw ar Lywodraeth Prydain i gynnwys arolwg o Fformiwla Barnett yn y cynigion ar gyfer datganoli i Loegr:

“Mae’n rhaid i gytundeb newydd i Brydain fod yn deg i bob rhan o Brydain,” meddai.