John Allen
Mae’r rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug wedi dechrau ystyried eu dyfarniad yn achos cyn-bennaeth cartrefi plant, sy’n wynebu cyfres o gyhuddiadau o droseddau rhyw hanesyddol.
Mae John Allen, 73, wedi ei gyhuddo o 40 achos o gam-drin difrifol yn erbyn 19 bachgen ac un ferch, rhwng saith a 15 oed, rhwng 1968 hyd at 1991.
Fe wnaeth Allen, o Needham Market, ger Ipswich yn Suffolk sefydlu cwmni Cymuned Bryn Alyn, grŵp o 11 o gartrefi plant ger Wrecsam yn 1968.
Yn ystod yr achos, clywodd y rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug bod y dyn busnes wedi creu “awyrgylch o ofn” wrth iddo gam-drin 20 o blant oedd yn byw yn ei gartrefi gofal.
Roedd y rhan fwyaf o’r achosion o gam-drin honedig wedi digwydd mewn tri o’r cartrefi – Bryn Alyn, Pentre Saeson a Bryn Terion.
Clywodd y llys bod rhai o’r dioddefwyr wedi ceisio mynd at yr awdurdodau ar y pryd ond fe gawson nhw eu hanwybyddu neu doedd neb yn eu credu.