Gallai methiant Llywodraeth Cymru i gymryd cyngor Comisiynydd y Gymraeg i ystyriaeth olygu bod y Bil Cynllunio yn anghyfreithlon.

Dyna beth mae Cymdeithas yr Iaith wedi’i ddweud heddiw wrth iddyn nhw gymryd cyngor cyfreithiol ar y mater.

Mae Mesur y Gymraeg yn dweud bod rhaid i’r Llywodraeth gymryd “sylw dyladwy” o gyngor ysgrifenedig y Comisiynydd.

Ond yn ôl Cymdeithas, os yw’r iaith Gymraeg yn cael ei hanwybyddu yn y Bil Cynllunio, gallai’r Bil gael ei ddiddymu mewn her gyfreithiol.

Gwendidau

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, wedi ysgrifennu at y Llywodraeth ddwywaith y llynedd ac ym mis Chwefror eleni ynglŷn â’r Bil Cynllunio.

Roedd ei llythyrau’n tynnu sylw at wendidau ac anghysonderau’r drefn gynllunio bresennol o ran yr iaith, ac yn cynnwys pedwar gwelliant penodol i fil cynllunio’r Llywodraeth.

Er gwaethaf addewid y Prif Weinidog, Carwyn Jones, mewn dogfen polisi a gyhoeddwyd fis Mehefin, i ystyried “pob cam ymarferol ar gyfer atgyfnerthu’r Gymraeg o fewn y system gynllunio”, doedd y Bil Cynllunio a gyhoeddwyd fis Hydref ddim yn adlewyrchu cyngor y Comisiynydd.

‘Proses wallus’

Meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Nid ar chwarae bach mae rhywun yn ystyried cymryd y math yma o gam, ond mae’r Llywodraeth wedi cael sawl cyfle i wrando ar gyngor arbenigol y Comisiynydd a’i weithredu, ac wedi gwrthod pob tro.

“Rydyn ni dal yn obeithiol y byddan nhw’n newid eu meddwl yn dilyn y gwrthwynebiad ffyrnig gan arweinwyr cynghorau ac eraill. Mae’r cyngor rydyn ni wedi derbyn yn galonogol, ac mae ’na siawns gref bod y Llywodraeth wedi rhedeg proses wallus.”

Ychwanegodd Jamie Bevan: “Er gwaethaf yr holl gyngor, mae Carwyn Jones wedi dewis peidio â rhoi lle canolog i’r Gymraeg yn y ddeddfwriaeth.

“Mae angen i’r Bil adlewyrchu anghenion unigryw Cymru er mwyn gwella’r amgylchedd, er mwyn cryfhau’r Gymraeg, ac er mwyn taclo lefelau tlodi. Ofer yw dynwared system sy’n bodoli yn Lloegr, gallai e fod yr hoelen olaf yn arch ein cymunedau Cymraeg fel arall.”

‘Craffu’n fanwl’

Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae Llywodraeth Cymru’n fodlon bod Bil Cynllunio (Cymru) o fewn cymhwysedd deddfwriaethol. Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n craffu’n fanwl ar y Bil yn awr.

“Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud yn glir y rhoddir ystyriaeth i bob awgrym ymarferol ynghylch hyrwyddo’r Gymraeg drwy’r System Gynllunio.”